PRESS RELEASE Press enquiries to Grenville Jones on 07778 282934. Thursday 13 October 2022 TIME TO SING! The fun day time Sing&Smile sessions from the Goldies Cymru Charity are now back in full swing with more to be added in the weeks ahead, reaching further communities across Wales. “The demand for our FUN Sing&Smile sessions across Wales is wonderful,” says Cheryl Davies, the Cymru Programme Leader. “Older people across Wales have missed socialising and being together, especially our regular ‘Goldies’ attendees.” Since re-starting our face to face singing sessions, Goldies Cymru have welcomed six new session leaders to keep up with the demand for community singing, but ;“We are always looking for more,” says Cheryl. With support from the National Lottery, in Wales, Goldies Cymru have introduced new sessions for people living with dementia and their carers. Working with Pembrokeshire Association of Voluntary Services sessions were launched in Crymych, Maenclochog and Fishguard, as well as bringing Sing&Smile sessions into regional Dementia meeting centres in partnership with Dementia Matters in Powys. This year, Goldies Cymru is celebrating their 10th year, so plans for a celebration are underway for November at Park End Church (Llandennis Road, Cardiff) with the continued support from The Moondance Foundation. Those that attend Sing&Smile sessions from all across Cardiff are being invited to the celebration, where they will be treated to an extended Sing&Smile session with the Session Leaders, decorate themselves with self-made tin(-foil) party hats and enter ‘The Great Goldies Bake-off’. Grenville Jones, Goldies founder will be joining in the celebration, he said; “I am really looking forward to it, a fantastic chance to see a room full of our ‘Goldies’. This really is about giving thanks to them, for all their support over the years.” Cheryl added; “If you enjoy a good old singalong to those well-loved hits of the 50s onwards, pop along to your nearest session, make friends and ENJOY. We are a Registered Charity and do ask please for all those attending to make a £3 donation to our work so we can extend our session, reaching older isolated people across Wales.” For further information on Sing&Smile sessions near you www.goldiescymru.org.uk If you think you could be a Goldies Cymru session leader please contact Cheryl, email [email protected] or call 07860 944410 ENDS Image shows a recent library session in Cardiff. DATGANIAD I’R WASG Ymholiadau’r wasg i Grenville Jones ar 07778 282934. Dydd Iau 13 Hydref 2022 AMSER I GANU! Mae sesiynau hwyliog Canu&Gwenu a gaiff eu cynnal yn ystod y dydd gan elusen Goldies Cymru, yn awr yn ôl yn eu hanterth gyda mwy i gael eu hychwanegu yn yr wythnosau i ddod, gan gyrraedd mwy o gymunedau yng Nghymru. “Mae’r galw am ein sesiynau Canu&Gwenu hwyliog ar draws Cymru yn wych,” meddai Cheryl Davies, Arweinydd Rhaglen Cymru. “Mae pobl hŷn ledled Cymru wedi gweld colli cymdeithasu a bod gyda’i gilydd, yn arbennig y rhai oedd yn mynychu ‘Goldies’ yn rheolaidd.” Ers ail-ddechrau ein sesiynau canu wyneb i wyneb, mae Goldies Cymru wedi croesawu chwech o arweinwyr sesiwn newydd i ateb y galw am ganu cymunedol, ond “Rydyn ni bob amser yn edrych am fwy,” meddai Cheryl. Gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, mae Goldies Cymru wedi cyflwyno sesiynau newydd ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr. Gan weithio gyda Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, cafodd sesiynau eu lansio yng Nghrymych, Maenclochog ac Abergwaun, yn ogystal â dod â sesiynau Canu&Gwenu i ganolfannau cyfarfodydd Dementia rhanbarthol mewn partneriaeth gyda Dementia Matters ym Mhowys. Mae Goldies Cymru yn dathlu eu 10fed pen-blwydd eleni, felly mae’r cynlluniau ar y gweill ar gyfer dathliad ym mis Tachwedd yn Eglwys Park End (Heol Llandennis, Caerdydd) gyda chefnogaeth barhaus Sefydliad Moondance. Caiff y rhai sy’n mynychu sesiynau Canu&Gwenu o bob rhan o Gaerdydd eu gwahodd i’r dathliad, lle bydd sesiwn estynedig Canu&Gwenu gyda’r Arweinwyr Sesiynau, gwisgo hetiau parti y byddant yn eu gwneud eu hunain allan o ffoil a chymryd rhan yng nghystadleuaeth goginio “The Great Goldies Bake-off”. Bydd Grenville Jones, sefydlydd Goldies yn ymuno â’r dathliad. Dywedodd: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn ato, cyfle gwych i weld ystafell llawn o’n ‘Goldies’ Nod hyn i gyd yw diolch iddynt am eu holl gefnogaeth dros y blynyddoedd.” Ychwanegodd Cheryl: “Os ydych yn mwynhau cyd-ganu gyda chaneuon hoff o’r 50au ymlaen, ewch draw i’ch sesiwn agosaf, gwneud ffrindiau a MWYNHAU. Rydym yn elusen gofrestredig a gofynnwn i’r rhai sy’n mynychu roi cyfraniad o £3 i’n gwaith fel y gallwn gynnal mwy o sesiynau, gan ymestyn mas i bobl ynysig hŷn ledled Cymru.” I gael mwy o wybodaeth ar sesiynau Canu&Gwenu yn agos atoch chi www.goldiescymru.org.uk. Os credwch y gallech fod yn arweinydd sesiwn Goldies, Cymru, cysylltwch â Cheryl, e-bost [email protected] neu ffonio 07860 944410 os gwelwch yn dda. DIWEDD Llun yn dangos sesiwn ddiweddar mewn llyfrgell yng Nghaerdydd.
0 Comments
|
Archives
February 2024
Categories |